Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o arian ar gyfer gwasanaethau
bysiau, er mwyn iddi ymlynu wrth amcanion ei pholisi ei hun o
leihau tlodi ac allgáu, a sicrhau nad yw pobl ar draws Cymru
o dan unrhyw anfantais cymdeithasol nac economaidd oherwydd eu
lleoliad.
Gwybodaeth ychwanegol: Nod y ddeiseb hon yw cynyddu’r arian a
gaiff ei roi i ardaloedd anghysbell, a than anfantais yng Nghymru.
Mae nifer o ardaloedd awdurdodau lleol wedi gorfod lleihau amlder y
bysiau a’r dewis o lwybrau bysiau sydd ar gael ers i’r
Grant Gwasanaethau Trafnidiaeth Rhanbarthol gael ei gyflwyno. Mae
nifer o breswylwyr yn teimlo’n ynysig oherwydd hwn, yn
arbennig ar benwythnosau ac ar ddyddiau gŵyl banc.
Prif ddeisebydd: Daniel Thomas
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 11 Tachwedd 2013
Nifer y llofnodion: 246